Yr oedd bore Sul, 17fed o Rhagfyr yn
achlysur arbennig iawn i Gapel Bethel Newydd pan anrhegwyd Mr. John G.Thomas ar
ei ymddeoliad ar ôl 52 o flynyddoedd wrth y llyw yn Ysgrifennydd Cyffredinol y
Capel.  Etholwyd John i’r swydd bwysig
yma yn 1960 ac fe benderfynodd rhoi’r gorau iddi yn 2012.  Yn y llun gwelir John gyda’i wraig, Kathleen,
ac hefyd Ronald James, Cyhoeddwr y Capel. 
Cafodd John dystysgrif arbennig am ei waith di-flino ac hefyd siec swmpus
am ei wasanaeth clodwiw dros y blynyddoedd. 
Cafodd Kathleen dusw o flodau gan Janice Thomas, ein hysgrifenyddes
Ariannol  a Thrysoryddes gan fod (yn ôl
geiriau Ronald) gwraig dda y tu cefn i bob dyn da.  Yr oedd yn achlysur i’w gofio ac yr ydym ni
fel aelodau o’r Capel yn gwerthfawrogi’n fawr y llafur caled mae John wedi ei
gyflawni dros y 52 o flynyddoedd.  Dymunwn
pob llwyddiant i Miss Meinir Jones am gymryd at yr awennau yn y dyfodol a
gwerthfawrogwn hyn yn fawr iawn.  
 

 
No comments:
Post a Comment