Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.2.13

Deillion Cwmaman

Cafwyd noson hyfryd yn y ‘Raven’ yn y Garnant ym mis Rhagfyr pan fu Pwyllgor Deillion Cwmaman yn dathlu eu cinio Nadolig.  Yr oedd y cwmni yn un difyr ac ar ddiwedd y noson fe dynnwyd Raffl yn  cynnwys dros hanner cant o wobrau.  Diolchwn i Jennifer gyda Mair yn cynorthwyo am fod yn gyfrifol am y raffl a chafwyd hwyl arbennig yn ei dynnu.  Carai’r pwyllgor ddiolch i bawb a oedd wedi rhoi’r gwobrau arbennig yma er lles y deillion.  Mae’n gwerthfawrogiad fel Pwyllgor yn ddyledus i Janice am fod yn Gadeirydd, Trysorydd ac Ysgrifenddes y mudiad, ac am ei gwaith di-flino ar hyd y flwyddyn.  Gobeithiwn y bydd y gwaith yma yn parhau am flynyddoedd yn y Cwm o ystyried pa mor anodd yw bywyd i’r sawl sy’n methu gweld yn iawn.

No comments:

Help / Cymorth