Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

23.1.13

Penblwydd yn Naw-deg oed

Dymuniadau da i Mrs.Betty Watkins, Heol y Glyn, Glanaman ar ddathlu ei phenblwydd yn 90 oed ar yr 17fed o Ragfyr.  Mae Capel y Tabernacl yn agos iawn i’w chalon ac hefyd mae wedi bod yn gweithio yn galed dros y blynyddoedd gyda sawl mudiad yn y Cwm.  Gwerthfawrogwn hyn yn fawr, Betty, gan obeithio bod yr iechyd yn well gennych.  Mae’n ffodus bod ganddi dri o blant ac hefyd wyrion a gor-wyrion.  Gobeithiwn fod Betty wedi mwynhau’r diwrnod a dymunwn iechyd da iddi i’r dyfodol.

No comments:

Help / Cymorth