Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

16.3.13

Merched y Wawr - Cangen y Gwter Fawr


Yn y llun, gwelir Mrs. Gill Morgan Jones, a ddaeth atom i Gangen y Gwter Fawr  .  Mae hi wedi ymddiddori mewn crefftau yn ymwneud â gwnїo ers blynyddoedd maith, ond yn  ystod y degawd diwethaf mae hi wedi treulio y rhan fwyaf o’i hamser sbâr yn arbenigo ar y grefft “Cwiltio”. Gwledd i’r llygaid oedd cael gweld engrheifftaiu o’i gwaith llaw  cywrain,medrus. Cafwyd esboniad o gefndir y grefft a sut y daeth Gill ei hunan i ddechrau Cwiltio, yn ogystal ag eglurhad am y lliwiau a’r patrymau  celfydd amrywiol ymhob eitem oedd ganddi,- a’r rheiny yn amrywio o fagiau llaw i fagiau siopa, ac o gwiltiau i  ddol i gwiltiau gwely dwbl! Erbyn hyn, mae Gill yn helpu i hyfforddi eraill yn y grefft, ond mae hefyd yn dal i fynd i ddosbarth er mwyn parhau i ddysgu  mwy ei hun.

No comments:

Help / Cymorth