Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

30.6.13

TÎM RYGBI TYCROES – PENCAMPWYR


 
Steve Roach, capten Tycroes yn derbyn Tlws Pencampwyr Cynghrair Cenedlaethol SWALEC Adran 4 Y Gorllewin oddi wrth Brian Fowler, cynrychiolydd y WRU
Tycroes yw pencampwyr Cynghrair Cenedlaethol SWALEC Adran 4 y Gorllewin eleni ac fe rhoddwyd sêl ar y bencampwriaeth gyda buddugoliaeth o 67 pwynt i ddim yng ngêm ola’r tymor yn erbyn Neyland sydd ar waelod y tabl. Mae wedi bod yn dymor arbennig gan golli dim ond un gêm yn unig. Fe aeth y ras am sgoriwr ucha’r tymor ymlaen tan y gêm olaf gyda’r bachwr  Richie Williams yn fuddugol ar ôl scorio 15 cais.


Dywedodd Aled Griffiths, y prif hyfforddwr, bod y ffaith bod y clwb wedi cael dyrchafiad am ddau dymor yn olynnol yn hwb enfawr a’u bod yn awr yn adeiladu tîm fydd yn gymysgedd o ieuenctid a chwaraewyr hŷn a phrofiadol a fydd yn abl i gystadlu yn y drydedd adran y tymor nesaf. Diolchodd hefyd i’r cefnogwyr am eu cefnogaeth yn wythnosol – cartref ac oddi cartref.

Ychwanegodd capten Tycroes, Stephen Roach, bod y daith dros y ddau dymor olaf wedi bod yn un arbennig. Dwy flynedd yn ôl roeddent yn methu ennill gêm ond nawr gydag hyfforddiant disgybledig y maent wedi cael dau ddyrchafiad yn olynnol. Mae’r tîm wedi gweithio’n galed ac wedi rhoddi cant y cant o wythnos i wythnos.

Llongyfarchiadau a phob llwyddiant yn y drydedd adran.

No comments:

Help / Cymorth