Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

3.7.13

Gellimanwydd


Bore Sul 19 Mai cynhaliwyd cwrdd teuluol yng Ngellimanwydd. Gwnaeth Marged, Elen, Efa, Gwenno, Mali, Gwenan a Luke gyhoeddi'r emynau.

Roedd prif rhan y gwasanaeth yn nwylo medrus Mari, Dafydd a Catrin.

Cawsom eitem gan y plant lleiaf sef canu'r emyn "Dod ar Fy mhen".

Wedi'r oedfa yn ol yr arfer aethom i'r neuadd i rannu cwpanaid o de a chael cyfle i gymdeithasu. Roedd yn wir fendith cael bod yno yn clywed a gweld y plant i gyd yn cyflwyno mor hyderus a phroffesiynol.

No comments:

Help / Cymorth