Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

25.6.13

Urddo’r Maer yng Nghwmaman




Roedd Clwb Golff y Garnant, gyda’i olygfeydd bendigedig o’r Cwm, o dan ei sang ar ddiwedd mis Mai eleni ar gyfer seremoni Urddo’r Maer.  Trosglwyddodd Yvonne Evans,

 y cyn Faeres, y gadwyn i Dafydd Wyn ac yna trosglwyddodd ef gadwyn y dirprwy faer i David M. Williams.  Da oedd gweld y Meiri eraill o’r cylch yn bresennol gan gynnwys David a Marguerite Rees o Lanymddyfri, Richard a Dawn Wallace o Landeilo ac Irena ac Angela Hopkins o Rhydaman.

           

              (Lluniau :John Vince a Josh Harris yn derbyn eu Tlysau wrth y Maer}     

 

Gorchwyl cyntaf Dafydd Wyn fel Maer oedd cyflwno Gwobrau’r Cyngor i Arwyr y Gymuned, sef y rhai  a wnaeth gyfraniadau gwerthfawr i fudiadau’r Cwm.  Roedd rhain yn cynnwys y canlynol:

Dilys Richards am fod yn Ysgrifenyddes “Cyfeillion Ysbyty Dyffryn Aman “ dros y  blynyddoedd.

Lorraine am fod yn Ysgrifenyddes yr Henoed.

Megan Thomas am ei gwaith diflino dros yr Eglwys a’r W.I. am flynyddoedd lawer.

Janice Thomas am yr holl waith y mae’n gwneud dros y Deillion.

John Vince a Martin Williams am eu cyfraniadau i Rygbi’r Ieuenctid yng Nghlwb yr Aman dros gyfnod hir. 

Eirian Rees a Twm  am eu gwaith da dros yr Ieuanc yn y Clwb Peldroed..

Rachel Rees a gapiwyd dros dim Merched Rygbi Cymru dan ugain a’r tim Saith bob Ochr.

Josh Harris a drodd dudalen newydd yn ei fywyd drwy ei ymroddiad i’r Clwb Ieuenctid a gwaith gwirfoddol yn y gymuned.

Hefyd cyflwynwyd Tystysgrifau i Priscilla Jones fel Cyn Gynghorwr ac yr oedd teulu y   diweddar  Gynghorwr Elsie Jones ym bresennol i dderbyn Tystysgrif am yr holl waith a gyflawnodd dros y Gymuned.

            Yn ei araith, rhoes y Maer deyrnged  i PC Stephen Morris a

WPC Hannah Jones am eu Plismona Bro a’r modd y roeddent yn cadw cysylltiad agos â’r gymuned drwy rhoi adroddiadau manwl yn y Cyfarfodydd Pact misol yn ogystal â’r Cyfarfodydd Cyngor.  Llongyfarchodd y Maer hwy ar eu record dda o ddatgelu troseddau.  Hefyd ar eu rhan apeliodd at drigolion Cwmaman i helpu’r heddlu gydag unrhyw wybodaeth oedd ganddynt am rai yn ceisio gwerthu cyffuriau peryglus megis “Miaw Miaw” a fedrai ddinystrio bywydau.    

Soniodd y Maer a Kevin Madge, Arweinydd y Cyngor Sir, am y toriadau truenus yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ac apeliwyd am fwy o wirfoddolwyr i helpu’r R.V.S, fel y’u gelwir nawr, gyda’r “Pryd ar Glyd”a’r gwasanaeth “Country Cars”, sy’n galluogi’r Henoed i gadw apwyntiadau pwysig..  

Cafwyd Bwffe flasus iawn i gloi’r noson yng Nghlwb Golff y Garnant.  Diolch i Tina a’r staff hyfryd am ei gwaith clodwiw gyda’r danteithion.  Roedd hon yn noson fendigedig a fydd yn aros yn hir yn y cof.

No comments:

Help / Cymorth