Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

17.9.13


Bu dros fil o bobl a sefydliadau lleol yn gorymdeithio drwy dref Caerfyrddin dydd Sadwrn, 29 Mehefin, wrth i seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr gael ei chynnal yn y dref.  Daeth cannoedd yn fwy o bobl i Gaerfyrddin i fwynhau’r seremoni a’r diwrnod o adloniant i’r teulu, wrth i bawb ddathlu dyfodiad y Brifwyl i’r sir ym mis Awst y flwyddyn nesaf.

Bu Gorsedd y Beirdd yn gorymdeithio drwy’r dref cyn cynnal y seremoni Gyhoeddi ym mharc y dref ac roedd y seremoni eleni’n arwyddocaol, wrth i Archdderwydd newydd gael ei hurddo i’r swydd.  Dyma’r tro cyntaf erioed i ferch ddal swydd yr Archdderwydd, gan dorri ar draddodiad cannoedd o flynyddoedd, a  bydd yr Archdderwydd Christine yn gyfrifol am yr Orsedd a’i seremonïau am y tair blynedd nesaf.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr ar y Meysydd Gŵyl, Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli, o 1-9 Awst y flwyddyn nesaf.  Am fwy o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.org.uk.

No comments:

Help / Cymorth