Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

11.9.13

HALEN Y DDAEAR


Alwyn Humphreys yn cyflwyno’r plat Halen y Ddaear i Hefin Williams
Syrpreis cwbl annisgwyl ond cwbl haeddiannol oedd ymweliad Alwyn Humphreys â chriw teledu y rhaglen ‘Prynhawn Da’ â Cylch Cinio Rhydaman i gyflwyno i Hefin Williams, Trysorydd y Cylch Cinio, plâc Halen y Ddaear am ei wasanaeth enfawr i fudiadau ac yn y gymuned ar hyd y blynyddoedd.
Brodor o Flaenau Ffestiniog yw Hefin ac mae wedi treulio ei oes ym myd y bancio ac wedi gwasanaethu mewn llawer ardal ar hyd a lled Cymru. Cyn ymddeol ef oedd rheolwr Banc y Midland (HSBC heddiw) yn Rhydaman. Mae Cymru, ei hiaith a’i diwylliant yn agos iawn at ei galon. Mae yn eisteddfodwr cyson a bu yn drysorydd ar Bwyllgorau Apêl yn Rhydaman adeg Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr a Llanelli ac hefyd adeg Eisteddfod yr Urdd yn Llanelli. Mae yn aelod gweithgar o Gylch Cinio Cymraeg Rhydaman ac wedi bod yn drysorydd am y ddeng mlynedd ar hugain diwethaf. Mae hefyd yn aelod ffyddlon o Gymdeithas y Rotari ac wedi bod yn gyfrifol am godi miloedd o bunnoedd tuag at achosion da. Mae yn gyn-lywydd ac yn gyn-drysorydd o’r Rotari ac ef sydd yn gyfrifol ers blynyddoedd lawer am gasglu hysbysebion i rhaglen swmpus y carnifal blynyddol. Mae yn hoff iawn o’r ddrama ac fe’i welir yn gyson yn Theatrau Sir Gâr a Theatr y Grand yn Abertawe. Mae canu hefyd yn hoffter ganddo ac mae yn aelod ffyddlon a gweithgar o Gymdeithas Gorawl Rhydaman. Fe’i welir yn gyson ar y Sul yn addoli ym Methani, Rhydaman.

No comments:

Help / Cymorth