Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

5.9.13

SESIYNAU DYSU O BELL - CAEL BLAS AR DDYSGU YN Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL



Bydd dau o feibion Rhydaman yn cymryd rhan flaenllaw ym mis Medi eleni yn un o fentrau newydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sef y Cynllun Dysgu o Bell. Bydd Stephen Rees, a faged yn Rhydaman ac a addysgwyd yn Ysgol Gyfun Dyffryn Aman ac yng Ngholeg Selwyn, Caergrawnt, yn trafod ein traddodiad gwerin mewn cerddoriaeth (‘Hen Alawon Newydd: Adfywiad(au) Cerddoriaeth Werin Cymru’). Tra bydd Dr Gethin Thomas, un arall o feibion sir Gâr a faged yn Rhydaman ac a addysgwyd yn Ysgol Maes yr Yrfa ac ym Mhrifysgol Bangor yn trafod un o feysydd Sŵoleg, sef ecoleg parasitau a’u horganebau lletyol. Mae Gethin yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe ym maes Sŵoleg

Mae Stephen yn hen law ar ddarlithio a bu’n dysgu nifer o bynciau amrywiol ym Mhrifysgol Bangor ers rhai blynyddoedd: o ganeuon y bymthegfed ganrif i bedwarawdau Beethoven. Er 2010 bu Stephen yn Gydlynydd Cerddoriaeth Academaidd i’r Coleg Cymraeg, gyda’r nod o gyfoethogi ac ehangu’r ddarpariaeth gerddorol cyfrwng Cymraeg mewn addysg uwch yng Nghymru. Yn ei oriau hamdden mae’n berfformiwr profiadol ac yn aelod o’r grwpiau gwerin Ar Log a Crasdant.

Bydd y ddau ymhlith criw o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg a fydd yn annerch cynulleidfa genedlaethol drwy’r cyswllt fideo yn ystod ail wythnos lawn mis Medi eleni: sef prynhawn dydd Mercher (11 Medi), nos Iau (12 Medi) a bore dydd Sadwrn (14 Medi). Dewch naill ai i Stiwdio’r Coleg Cymraeg yng Nghaerfyrddin neu i Stiwdio’r Coleg Cymraeg yn Abertawe i glywed Stephen neu Gethin.

 

Prif nod y sesiynau hyn ym mis Medi yw cynnig blas i oedolion o bob oed ac o bob cefndir ar y cyfleon newydd ac arloesol sydd ar y gweill gan addysg uwch i’w gynnig drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd y Cynllun Dysgu o Bell yn dechrau’n swyddogol ym mis Medi 2014 felly mae digon o amser gennych i brofi beth sydd ar gael. Bydd cyfranwyr o brifysgolion Aberystwyth, Bangor, Abertawe a Chaerdydd yn cymryd rhan.

Os ydych chi yn chwilio am her newydd neu’n dymuno dilyn un o’ch diddordebau, neu efallai eich bod am wella eich sgiliau ar gyfer byd gwaith, dyma gyfle ardderchog ichi ddysgu yn eich amser eich hunan, wrth eich pwysau, yn eich cartref eich hun ac yn eich iaith eich hun. Y cyfan sydd ei angen arnoch yw awydd i ddysgu, cyfrifiadur a chyswllt band eang (broadband) â’r we. Bydd dewis eang iawn o feysydd ar gael pan fydd y cynllun hwn yn dechrau’n swyddogol ym mis Medi 2014 a bydd darlithwyr o brifysgolion ledled Cymru yn cynnig pynciau difyr a defnyddiol. Felly ewch i’r wefan (colegcymraeg.ac.uk/dysguobell) i weld a oes rhywbeth o ddiddordeb ichi.  Ac os ydych ar y we man a man ichi lenwi ein holiadur cryno a di-lol i gael cyfle i ennill gwobr (£75).

Ni chodir tâl o gwbl am y sesiynau blasu ym mis Medi eleni felly does dim byd i’w golli. Dewch draw i gael paned ac i weld a chlywed beth sydd gan addysg uwch i’w gynnig ichi ac i gwrdd â phobl sy’n rhannu’r un diddordebau â chithau. I gadw lle cofrestrwch nawr: dysguobell@colegcymraeg.ac.uk (Dr Owen Thomas neu Lowri Morgans:  01970 628474). I gael y manylion llawn am gynnwys a threfniadau’r sesiynau blasu ewch i: colegcymraeg.ac.uk/sesiynaublasu

 

No comments:

Help / Cymorth