Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

2.9.13

Lleisiau'r Cwm - yn brysur yn y gymuned


 

Mae côr merched Lleisiau'r Cwm wedi bod yn brysur yn ddiweddar yn perfformio, ac mae’r misoedd nesaf yn mynd i fod yn rhai prysur iawn iddynt.

Cynhaliwyd Eisteddfod Rhydaman ar Ddydd Sadwrn Mehefin 22ain ac fe gefnogodd y merched yr Eisteddfod ac ennill y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth gorawl. Ar Fehefin 28ain roeddent yn perfformio mewn Noson Lawen yng Nghlwb Garnant, ac ar Nos Sul Mehefin 30ain,  yn rhan o’r gynulleidfa yng Nghapel Bethany Rhydaman yn Gymanfa Gyhoeddi Eisteddfod Sir Gâr 2014.
Dros y blynyddoedd mae’r merched wedi, ac maent yn parhau i gefnogi elusennau lleol a Chenedlaethol, a bydd rhai aelodau yn rhedeg y Ras am Fywyd yn Abertawe ar ddiwedd Gorffennaf i godi arian i Gancr. Eleni mae'r côr yn codi arian tuag at XLA. (X- linked agammaglobinemia)Roedd y côr yn perfformio mewn cyngerdd Cymorth Cristnogol yn Ysgol y Bedol ym mis Gorffennaf ac ar Fedi 11eg maent yn teithio i’r Lyric yng Nghaerfyrddin i berfformio gyda’r Tri Tenor.
Maent yn perfformio gyda Dafydd Iwan yn Llangyndeyrn ym mis Hydref ac ym mis Rhagfyr byddant yn ymuno â Côr Crymych a’r Cylch yn eu cyngerdd Nadolig yn Aberteifi.

No comments:

Help / Cymorth