Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

24.8.13

Bore Coffi i Gefnogi Cronfa Gancr Marie Curie



Cynhaliwyd bore coffi i’w gofio yng Nghlwb Godre’r Mynydd Du o dan arweiniad Belinda Jenkins a’i chriw gweithgar i godi arian i’r mudiad teilwng uchod.  Yr oedd y byrddau yn hyfryd eu gweld ac roedd yno ddanteithion blasus at ddant pawb.  Yr oedd Maer a Maeres Cwmaman yn bresennol a chyflwynodd y Cynghorwr Dafydd Wyn siec oddiwrth Cyngor Tref Cwmaman ar ôl rhoi araith fer a phwrpasol.  Hefyd yn bresennol oedd y Cynghorwr Sir, David Jenkins.  Codwyd y swm sylweddol o bedwar can punt a charai Belinda ddiolch o waelod calon i’r rhai a’i cefnogodd yn y fenter hon.  Diolchwn ninnau iddi hi a’i chydweithwyr am wneud  y fath gyfraniad gwerthfawr i’r rhai sy’n dioddef wrth gancr.

No comments:

Help / Cymorth