Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

29.9.13


 
Mae wastad diddordeb mawr yng nghystadleuaeth Cwpan Denman, sef cystadleuaeth Undeb yr Annibynwyr ar gyfer ysgolion Sul Cymru. Yr her eleni oedd creu baner ar y thema "Stori Fawr Duw". 
Ysgol Sul Gellimanwydd, Rhydaman ddaeth yn fuddugol. Yn y llun mae rhai o blant yr ysgol Sul yn arddangos y gwpan gyda'r faner yn y cefndir. Yn ogystal ac ennill y cwpan derbyniwyd siec o £200 a fydd yn cael ei ddefnyddio at waith yr ysgol Sul.
Mae’r Ysgol Sul wedi ail ddechrau ac mae croeso i bawb ymuno a ni ar fore Sul yn Neuadd Gellimanwydd

No comments:

Help / Cymorth