Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

2.10.13

organised Kaos

Bu Nicola Hemsley yn siaradwraig wadd yn Noson Goffi yn Hermon, nos Fawrth y 10 Medi. Cafwyd cyflwyniad diddorol iawn ganddi am ei gwaith yn cynnig cyfleuon i pobl ifanc yr ardal i ddysgu sgiliau syrcas ac mae llwyddiant y fenter yma wedi bod yn aruthrol. Mae’r grwp yma yn anabyddus drwy Brydain ac yn rhannau eraill o Ewrob a’r Byd!
Mae’r grwp wedi cael gwahoddiad i sawl gwlad yn cynnwys China i arddangos sgiliau arbennig iawn, sgiliau a gafodd eu cyflwyno a’u meithrin mewn Neuadd Eglwys fechan yng Ngwaun Cae Gurwen.
Mae Nicola yn gwneud gwaith arbennig a gwerthfawr iawn yn rhoi cyfle i ieuenctid ymddiddori ac arbenigo mewn sgiliau syrcas ac mae’r ganolfan ar agor bob nos o’r wythnos yn ogystal å’r penwythnos pryd bydd y grˆwp yn cael gwahoddiad i berfformio mewn gweithgaredd arbennig ar hyd a lled y wlad.
Agorwyd llygaid nifer yn ystod y noson wrth iddynt sylweddoli gymaint o bobl ifanc sydd yn rhan o’r cwmni. Mae Nicola yn barod i gynnig croeso i unrhyw un sydd am droi mewn i weld y grˆwp wrth ei gwaith.

No comments:

Help / Cymorth