Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

21.10.13

Taith gerdded yn ôl i Ddoe



Roedd Canolfan y Mynydd Du Brynaman yn dathlu digwyddiad mawr yn ddiweddar, sef Taith Gerdded yn ôl i ddoe a oedd yn rhoi dehongliad o fywyd a diwylliant dros y blynyddoedd yn yr ardal.

Lansiwyd y digwyddiad gan yr Aelod Seneddol lleol, mr  Jonathan Edwards mewn Jambori, yn adlewyrchu treftadaeth gyfoethog yr ardal. I ddechrau’r dathliadau gorymdeithiodd plant yr ysgol gynradd leol mewn gwisgoedd traddodiadol gyda Band Cyhoeddus Ystradgynlais i'r ysgol wreiddiol sydd bellach yn gartref i Ganolfan Mynydd Du.

Uchafbwynt y diwrnod oedd dadorchuddio murlun newydd sy’n crynhoi treftadaeth Brynaman gan Mr Roy Noble. Mae’r murlun a gafodd ei greu gan y grŵp celf cymunedol gyda chymorth yr artist lleol Sue Crossman-Jones. Mae'n cael ei arddangos yn barhaol yn y Ganolfan

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr a daeth y gymuned leol yn llu i ddathlu diwrnod i'w gofio a hoffai staff y Ganolfan ddiolch i bawb am eu cefnogaeth.

 

No comments:

Help / Cymorth