Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

26.10.13

Ysgol Maes y Gwendraeth


roedd hi’n ddechrau newydd sbon i un ysgol ym Mro Dinefwr ym Mis Medi.

Yn sgil yr ail-drefnu addysg yn Ninefwr, fe agorodd ddrysau ysgol newydd Maes y Gwendraeth ar Fedi’r 4ydd . Dyma ddechrau ar gyfnod hanesyddol a chyffrous o ran addysg Gymraeg yr ardal, gyda Maes y Gwendraeth yn cael ei hadnabod fel ysgol benodedig Gymraeg gyntaf Dinefwr.

Mae’r ysgol yn gartref i 911 o ddisgyblion gyda 150 yn y chweched dosbarth.Gyda’r bathodyn a gwisg newydd, mae’r ysgol, yn ddisgyblion a staff, yn benderfynol o gynnal a chodi safonau a fflam cymreictod – elfen a fodolai eisoes yn Ysgol Maes-yr-yrfa.

Yn ôl y Pennaeth, Mr Iwan Rees “mae sefydlu  Ysgol Maes y Gwendraeth yn gyfnod hanesyddol i addysg gymraeg, yn Ninefwr ac yn Nghymru, a gyda disgwyliadau uchel gallwn sicrhau bydd pobl ifanc yr ardal yn cael y ddarpariaeth addysgol orau posib a fydd yn rhoi y dechreuad gorau idynt mewn bywyd

Yn sicr, mae Ysgol Maes y Gwendraeth yn bederfynol o adeiladu ar sylfeini cadarn a chymreig ysgol Maes-yr-yrfa a chynnig cartref clud, diogel i’w disgyblion gan roi cyfle i bob unigolyn ragori mewn amrywiaeth o feysydd eang.

Fel rhan o ddathliadau’r sefydlu, bydd Noson Agored yn cael ei threfnu i rieni a chenhedlaeth newydd Maes y Gwendraeth ar Hydref 8fed 2013 ac yna ym mis Tachwedd (18fed i’r 20fed), cynhyrchiad o’r sioe gerdd enwog gymreig, Nia Ben Aur.

 

Yn unol ag arwyddair yr ysgol, ein nôd yw hyrwyddo

Cyfoeth Bywyd Addysg

No comments:

Help / Cymorth