Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

24.11.13

Oedfaon Diolchgarwch Capel Gellimanwydd


Cynhaliwyd Oedfaon Diolchgarwch  Capel Gellimanwydd, Rhydaman ar ddydd Sul 20 Hydref. Oedfa deuluol oedd yn y bore gyda Hanes Noa yn thema. Roedd y plant i gyd wedi dysgu eu gwaith yn drylwyr a phob un yn cymryd at eu rhan yn broffesiynol.  Hyfryd oedd gweld y capel yn llawn o deuluoedd ifanc. Yn ystod yr oedfa roedd y plant yn dod ymlaen a chyflwyno bocsus esigidiau ar gyfer Operation Christmas Child.
 Wedi’r oedfa cawsom de parti fel rhan o’n dathliadau a diolch am y Cynhaeaf.

Yna yn yr hwyr cawsom oedfa ddiolchgarwch yr oedolion gyda anerchiad bwrpasol gan ein gweinidog a chyfraniadau gan yr aeoldau  gan gynnwys eitemau gan Gôr y Capel.

No comments:

Help / Cymorth