Rhaid canmol pwyllgor Neuadd y Pentref am ei
ddyfal barhad a’i ddycnwch wrth drefnu gweithgareddau er mwyn cynnal yr adeilad
ar ei newydd wedd. Dechreuwyd y tymor gyda chyngerdd gan Gôr Meibion Dyffryn
Aman o dan arweiniad Ian Llywelyn gyda rhai artistiaid. Canol Hydref death
Parti’r Efail o Efailisaf ger Pontypridd i ddiddanu. Sefydlwyd y parti ddeunaw
mlynedd yn ôl er mwyn cystadlu yng Ngŵyl Cerdd Dant Pen-y-bont ar Ogwr. Maent
yn cystadlu yn gyson ac wedi cael llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac
yn yr Ŵyl Gerdd Dant. Cafwyd noson arbennig yn eu cwmni gyda Gwyn Hughes Jones,
Y Barri (cyn gynhyrchydd ‘Pobol y Cwm’, ‘Y Palmant Aur’, a.y.y.b.) yn cyflwyno.
Cafwyd ganddynt amrywiol eitemau o emynau i gerdd dant. Mrs Menna Thomas oedd
yr arweinydd ac felly ers sefydlu’r parti. Cyflwynwyd y parti gan y Cynghorwr
Sir Callum Higgins a Bobi Jones, Llywydd Llywodraethwyr Ysgol y Pentre, oedd llywydd
y noson.
Ym mis Tachwedd
disgwylir parti o chwiorydd o dan ofal June Ashton Mears, Pontardawe i gyflwyno
Noson Fictorianaidd. Bydd hon yn noson wahanol i’r arfer. Ceir ynddi hanes a
gwybodaeth am ddillad y cyfnod. Gobeithir am gynulleidfa deilwng i’r noson
honno eto.
No comments:
Post a Comment