Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

19.11.13

DATHLU CAN MLYNEDD A HANNER O ADDYSG YN NHYCROES


Nos Fercher, Medi 16eg cynhaliwyd cyfarfod arbennig yn Eglwys Sant Edmwnd, Tycroes i ddathlu can mlynedd a hanner o addysg ym mhentref Tycroes. Llywyddwyd gan Ficer y Plwyf, y Parch. Dennis Baxter, ac fe gymerwyd rhan yn y darlleniadau gan Mrs Aenid Davies yn Gymraeg a Mr Howard Thomas yn Saesneg. Cynorthwywyd wrth yr organ gan Mrs Eirwen Thomas, Llanedi. Yn bresennol hefyd roedd pennaeth newydd Ysgol Tycroes, Mr Elfed Wood, ynghyd â’r cyn-brifathrawes, Mrs Rosemary Wallace. Cafwyd hanes diddorol yr Ysgol ‘National’ gyntaf gan Mr Peter Roderick, Tycroes, mab ail brifathro’r ysgol, Mr W.E. Roderick. Dyma rhai o’i sylwadau:

                                   

 

Neuadd yr Eglwys – Lleoliad yr Ysgol Gyntaf yn Nhycroes

 

Sefydlwyd yr Ysgol ‘National’ yn Nhycroes yn 1863 (Neuadd yr Eglwys heddiw) ac fe dderbyniwyd ei disgyblion cyntaf ar Fedi’r 16eg y flwyddyn honno. Naw oedd yn bresennol ar y dechrau ond erbyn dechrau Tachwedd roedd yno 50 o ddisgyblion ac fe aeth y rhif i fyny i 83 erbyn dechrau 1864. Erbyn Gorffennaf 1864 roedd cant o ddisgyblion yn mynychu’r ysgol.

Gydag ysgol cyfagos yn cau tyfodd yr ysgol yn gyflym a bu rhaid ehangu’r adeilad ac fe dderbyniwyd grant o £33-18-0 i gwblhau’r gwaith. Ond erbyn 1871 roedd 159 o ddisgyblion yn yr ysgol a bu rhaid eto cael ystafelloedd a llyfrau ychwanegol i gwrdd â’r gofyn ac fe dderbyniwyd grant o £79-15-0. Erbyn 1874 roedd 224 o blant ar y gofrestr. Roedd y wasgfa yn fawr a dim lle i droi a bu, oherwydd hynny, rhaid gwrthod derbyn plant o Landybïe. Disgynnodd y gwaith o addysgu nifer mawr o blant ar ysgwyddau’r prifathro, dau athro profiadol ac un disgybl-athro. Gan mai Ysgol yr Eglwys ydoedd byddai offeiriadon yn ymweld yn gyson â’r ysgol ac yn arholi’r disgyblion yn enwedig yn eu gwybodaeth o’r ysgrythur. Byddai’r ysgol yn cau adeg achlysuron arbennig yn y pentref – diwrnodau ffair a gwyliau’r eglwys a’r capeli.
Ymddeolodd y prifathro cyntaf, Mr Morgan Jones, ar ôl 43 mlynedd o wasanaeth, ar Fedi’r 22ain, 1922 ac fe’i ddilynwyd gan Mr W.E. Roderick. Yn 1922 caewyd yr Ysgol ‘National’ yn Llanedi gyda’r disgyblion yn cael eu cludo i Dycroes. Caewyd yr Ysgol ‘National’ yn Nhycroes ar Ebrill 30ain, 1928. Erbyn heddiw mae plant y pentref yn derbyn eu haddysg mewn ysgol fodern ysblennydd ar Heol Pontarddulais

No comments:

Help / Cymorth