Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

16.11.13

Hydref yn Henffordd


Cafodd Côr Meibion Llandybie a’u ffrindiau benwythnos i’w gofio yn y Gororau ddiwedd mis Hydref. Gyda thywydd hydrefol hyfryd, a’r wlad yn edrych ar ei gorau yng ngwisg yr Hydref ‘doedd dim esgus i beidio â mwynhau. Yr oedd y Côr yn aros mewn gwesty moethus ar gyrion Henffordd yng nghanol perllannau â oedd yn plygu i’r llawr o dan bwysau ffrwythau’r cynhaeaf.
Ymwelodd y Côr â dinas Henffordd ac un o drefi mwyaf prydferth Prydain, sef Llwydlo. Hyfryd oedd gweld pawb yn mwynhau y gwmniaeth a rhaid diolch yn fawr i Mr Albert Davies, Rhydaman am drefnu’r cwbl.

No comments:

Help / Cymorth