Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

14.11.13

Eisteddfod Calfaria Garnant


Hyfryd oedd gweld cymaint o blant Ysgol y bedol yn cystadlu yn Eisteddfod Calfaria Garnant yn ddiweddar. Roedd y safon yn uchel iawn fel arfer. Dyma’r plant buddugol ynyy cystadleuthau llefaru, canu, offerynol ac unawd piano.: Megan Davies, Tai Cousins, Tyler Francis, Rebecca Garton, Seren Davies, Elsie Taylor, Zayra Dungey a Hannah Rees. Llongyfarchiadau I bawb a gymerodd rhan.
Bu Eisteddfod flynyddol Calfaria, yn llwyddiant mawr eleni eto a daeth llu o blant  i gystadlu ar y canu, adrodd a chwarae offerynau .   
Yn yr Adran Agored gwelwyd cystadleuwyr o Gaerdydd, Saron, Llangeler, Llandeilo, Clydach a Rhiwfawr.  Y Beirniad Cerdd oedd Mrs Davida Lewis, Abertawe a Mrs Jane Altham-Watkins, Glais ar yr Adrodd  gyda Mrs Gloria Lloyd, Rhydaman, a fu’n  gyfeilydd selog dros y blynyddoedd, yn cyfeilio unwaith yn rhagor eleni.  Yn arwain roedd Mr John Vince Williams, y Garnant, ynghyd â  Mrs Jane Cousins, heb anghofio am Mr Dewi Davies wrth y drws.  Diolch hefyd i’r Chwiorydd a fu’n brysur tu hwnt yn gwneud yr ymborth mwyaf bendigedig.  Dymuna’r pwyllgor gydnabod pawb a wnaeth gyfranu yn dda tuag at yr achlysur arbennig hwn ac hefyd am y gefnogaeth sydd yn dod i’w rhan yn  flynyddol i sicrhau fod yr Eisteddfod yn parhau.  Cyflwynwyd gair o werthfawrogiad a rhodd ar ran Cyngor Tref Cwmaman gan y Cynghorwr Dafydd Wyn, Maer Cwmaman eleni a chafwyd geiriau pwrpasol iawn ganddo yn dymuno pob llwyddiant i’r Eisteddfod yn y dyfodol.

 

No comments:

Help / Cymorth