Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

14.11.13

Ymweliad Henson y Draenog.


Llongyfarchiadau i blant Blwyddyn 2 Ysgol Gwaun Cae Gurwen ar lwyddo yn eu hyfforddiant diogelwch ar y ffordd fawr, Kerbcraft. Daeth Henson y Draenog i wasanaeth yr ysgol er mwyn gwobrwyo’r plant gyda thystysgrifau a bag o adnoddau arbennig.

No comments:

Help / Cymorth