Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

9.11.13


Mae Ysgol Gymraeg Gwaun-Cae-Gurwen wedi bod wrthi’n trefnu ymweliadau’n ddiweddar yn dilyn llwyddiant derbyn cymorthdal, “Cysylltu Dosbarthiadau,” gan y Cyngor Prydeinig.
Tua canol mis Medi, aeth Mr Morgan a Mr Evans ar ymweliad ag India fel rhan o’r trefniadau a chawsant flas mawr arni.
Roedd safonau disgyblaeth ac ymroddiad y plant a’r athrawon yn yr ysgol yn Chennai yn arbennig, ond roedd tlodi i’w weld hefyd y tu allan i’r ysgol ac ar y strydoedd.
Torcalonnus oedd gweld plant yn begian a chanfod nad yw 3 o bob 10 plentyn yn derbyn unrhyw fath o addysg o gwbl yn Chennai. Mae’n agoriad llygad gweld a gwerthfawrogi yr hyn sydd gennym a’r hyn sydd ar gael ar ein cyfer.
Rydym yn bobl ffodus ofnadwy.

No comments:

Help / Cymorth