Noson i’w chofio oedd hi i Rhodri Williams, mab i Alan a
Launa o’r Betws pan enillodd ei gap cyntaf yn erbyn Tonga nos Wener 22ain o Dachwedd. Wedi ei eni
a’i fagi yn Waun Gron ond bellach wedi ymgartrefi yn Ffordd y Glowyr gyda’i
bartner Jamie. Dechreuodd chwarae yn yr ysgol dan hyfforddiant Mr Toni Williams a’i gefnogodd drwy’r
blynyddoedd cynnar, cyn symud ymlaen i chwarae i dimau Ysgol Dyffryn Aman a
Thîm Ieuenctid Rhydaman. Cafodd ei dalent ei adnabod a chyn bo hir roedd yn cynrychiolu
timau dan 16, dan 18 a dan 20 Cymru. Yna, symudodd ymlaen i chwarae i dîm Llanymddyfri
ac yna'r Scarlets cyn cyrraedd y brig i unrhyw chwaraewr rygbi sef cynrychiol ei
wlad. Un peth doedd Rhodri methu credu oedd
y nifer a ddymunodd pob lwc iddo a dderbyniodd cyn y gêm a bod llond bws o
gefnogwyr o’r Betws wedi teithio i Gaerdydd ar nos Wener i rannu ei lwyddiant.
Yna wythnos yn ddiweddarach death Rhodri arno fel eilydd yn y gem rhwng Cymru ac Awstralia - Gobeithio mae’r capiau cyntaf o nifer fydd rhain.
No comments:
Post a Comment