Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

5.12.13

Cwis, Cyri a Chips


Roedd pawb wrth eu bodd yn y cwis yng Nghlwb Rygbi’r Aman yn ddiweddar. Cafwyd llawer o gwestiynau diddorol gan y cwis-feistr Edwyn Williams yn cynnwys y rownd ‘Pwy di hwn?’ Braf oedd gweld wynebau newydd o’r Cwm yn mentro un o gwisiau enwog Edwyn!Allan o’r 7 tîm wnaeth cystadlu, y tîm a ddaeth i’r brig oedd Clwb yr Aman!Da iawn fechgyn a diolch i bawb a ddaeth i gefnogi’r noson, i Edwyn am Gwis arbennig unwaith eto ac i’r Clwb am lanw’n boliau â chyri a chips!

No comments:

Help / Cymorth