Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

5.12.13

Noson i Ferched



 
Yn ddiweddar roedd Menter Bro Dinefwr wedi trefnu noson i ferched. Nid Golff oedd ar feddyliau’r menywod wrth iddynt fynd I  glwb Golff Garnant ond SIOPA! Roedd yn noson hwylus iawn yn dechrau a sesiynau cyflwyno gan Golur Avon, Siop Olyv a golff i ferched. Ar ôl cymryd y wybodaeth i mewn roedd yn amser siopa a darganfod beth oedd ar gael gan y stondinau crefft. Pleser oedd gweld cymaint o ferched yn cefnogi’r noson. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd i lwyddiant y noson ac edrychwn ymlaen at yr un nesaf! Does dim byd gwell na siopa, diod a chymdeithasu a ffrindiau mewn un lleoliad!

 

No comments:

Help / Cymorth