Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

27.2.14

Gymnasteg - Ysgol Gwaun Cae Gurwen


Llongyfarchiadau i Daniel Leonard disgybl Blwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Gymraeg Gwaun-Cae-Gurwen ar ennill cwpan pencampwr y bechgyn ar gyfer Clybiau Gymnasteg Nedd Porth Talbot.
Dechreuodd Daniel fynychu’r clwb ‘Gym for All’, sy’n cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Pontardawe, nôl ym mis Medi diwethaf. Llwyddodd i ennill gradd 8 erbyn diwedd ei dymor cyntaf. 
 
O ganlyniad i’w waith caled a’i ddyfalbarhad cafodd ei enwebu ar gyfer cwpan pencampwr y bechgyn, ac yn ystod seremoni gwobrwyo blynyddol clybiau gymnasteg yr ardal yn eu prif ganolfan yng Nghastell Nedd cafodd ei gyhoeddi fel yr enillydd. Mae Daniel yn parhau i ddatblygu ei sgiliau gymnasteg a dymunwn pob llwyddiant iddo i’r dyfodol.

No comments:

Help / Cymorth