Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

25.2.14

Marathon Paris


Llongyfarchiadau i Gareth Edmondson ar ennill cystadleuath yng nghylchgrawn Runner’s World i redeg y Paris Marathon.

Rhoddodd Gareth, sydd yn byw yn Brynaman gyda Louise ei wraig, ei enw i mewn i gystadleuaeth ar gyfer cael lle i redeg y Paris Marathon yn mis Ebrill.  Allan o 2600 o bobl llwyddodd i gyrraedd y Bootcamp ble cafodd  gyfle i gael diwrnod o redeg gyda hyfforddwyr  proffesiynol yn Birmingham.

 Yn dilyn hyn dewisodd Runner's World 19 o bobl allan o'r 50 yn y  bootcamp i
gynrychioli amser arbennig. Roedd Gareth yn y grwp rhedeg marathon mewn llai na 5 Awr . Yna roedd rhaid i bobl bleidleisio. Ennillodd y bleidlais a’r wobr  oedd:-

·         Mynediad i'r Paris Marathon yn Ebrill gyda 4 enillydd arall

·         Hyfforddiant gan hyfforddwr proffesiynol

·          Cefnogaeth physiotherapist, nutritionist a psychologist a

·         Kit werth £1000 gan Asics a Garmin

 

Mae Gareth nawr wrthi yn hyfforddi trwy ddilyn cynllun personol sydd wedi cael ei baratoi yn arbennig iddo. Roedd yn hyfforddi/ymarfer dros y Nadolig!


 Yn ogystal mae’n rhedeg i godi arian i CISS, sef “Cancer Information and Support
 Services” yn Abertawe.

 

Os hoffech ei gefnogi yna y ffordd orau o wneud yw mynd i wefan Just Giving a rhoi enw Gareth Edmondson yn y search. Dyma’r linc i’w dudalen http://www.justgiving.com/gjed75

 

Mae pawb yn Glo Man yn dymuno’n dda iddo yn ei ymdrech arbennig.

No comments:

Help / Cymorth