Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

15.2.14

CANOLBWYNT CYMRAEG NEWYDD I RHYDAMAN

Mae Menter Bro Dinefwr wedi sefydlu canolbwynt Cymraeg newydd yn Rhydaman. Bydd y lleoliad yn gartref i swyddfa’r Fenter yn nyffryn Aman ac yn ganolfan adnoddau a siop Gymraeg yng nghanol y dref, a fydd yn gwasanaethu Dinefwr gyfan a thu hwnt.
Yn dilyn ymddeoliad perchnogion Siop y Cennen, y siop Gymraeg leol sydd wedi cynnig gwasanaeth clodwiw am dros chwarter canrif, penderfynodd Menter Bro Dinefwr gymryd camau cadarnhaol i sicrhau parhad i’r adnodd pwysig hwn. Hefyd, yn sgil canlyniadau diweddar y Cyfrifiad o ran sefyllfa’r Gymraeg yn yr ardal, mae sicrhau presenoldeb mwy gweladwy a mynediad mwy hwylus i wasanaethau’r Fenter yng nghanol y dref yn hanfodol bwysig.
Mae cwmni annibynnol di-elw wedi ei sefydlu gan y Fenter a fydd yn gyfrifol am redeg y siop Gymraeg, sef Cyfoes. Mae’r ganolfan wedi ei lleoli ym Myd y Siopwr, Stryd y Gwynt, Rhydaman ar safle Siop y Cennen ond gydag uned arall i ddyblu maint y siop wreiddiol. Bydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm ac ar ddydd Sadwrn rhwng 9am a 3pm ac mae croeso i chi alw heibio yn ystod yr oriau uchod.
Dros y blynyddoedd, bu Siop y Cennen yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr ac rydym yn awyddus i barhau a datblygu’r gwasanaeth hwnnw drwy gwmni Cyfoes.
Dros y mis nesaf byddwn yn datblygu stoc mewn meysydd newydd. Cofiwch alw felly pan fyddwch yn gwneud eich siopa - gallwn hefyd archebu nwyddau o bob math ar eich cyfer. Galwch mewn i’n gweld ym Myd y Siopwr neu cysylltwch â ni ar (01269) 595777 neu drwy ebostio
post@cyfoes.org

No comments:

Help / Cymorth