Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

16.3.14

Apel Haiti


Yn dilyn Oedfa foreol yng Nghapel Gellimanwydd yn ddiweddar cynhaliwyd Cinio Bara a Chaws yn y Neuadd. Prif bwrpas y cinio oedd codi arian tuag at apêl Haiti Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. 

 Bob pedair blynedd mae Undeb yr Annibynwyr yn cynnal apêl arbennig tuag at waith Cymorth Cristnogol mewn un wlad benodol. APÊL HAITI gynhelir yn 2013-14, er budd pedwar prosiect i helpu gwlad dlawd a chwalwyd gan ddaeargryn anferth yn 2010.

Daeth cynrychiolaeth dda  i’r wledd ar ôl yr oedfa ac fe gawsom gân gan blant yr Ysgol Sul.  Casglwyd swm sylweddol tuag at yr apêl a diolchwyd i bawb am eu haelioni gan Y Parchg Dyfrig Rees.  

No comments:

Help / Cymorth