Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

19.3.14

Cyfnod Newydd yn hanes Ysgol Gynradd Tycroes


 
Y tymor diwethaf fe apwyntiwyd Mr Elfed Wood yn olynydd i Mr Paul Mainwaring fel pennaeth ar Ysgol Gynradd y pentref.

            Brodor o Abergele yw Elfed ond er ei fod yn wreiddiol o’r gogledd y mae erbyn hyn wedi gwario cymaint o flynyddoedd yn ne orllewin Cymru ag yn y gogledd. Cafodd ei addysg brifysgol yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin a’i gytundeb cyntaf oedd dysgu Cerddoriaeth am dymor yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Teifi, Llandysul. Cafodd ei swydd llawn amser gyntaf yn Ysgol Talyllychau a oedd o dan arweinyddiaeth y brifathrawes Mrs. Pauline Roberts-Jones. Ar ôl pum mlynedd yno derbyniodd swydd fel pennaeth yn Ysgol Nantygroes, Milo a threulio sawl blwyddyn hapus yno yn arwain yr ysgol.
            Yn naturiol pan ddaeth hysbyseb am swydd pennaeth yn ei ysgol gyntaf, sef Talyllychau, ceisiodd amdani a dychwelodd yno yn brifathro. Cyn ei apwyntiad yn brifathro ar Ysgol Tycroes ef oedd prifathro Ysgol Y Blaenau lle y bu iddo fwynhau yn fawr ei gyfnod.

            Mae yn hynod  ddiolchgar i bawb yn Nhycroes am eu croeso. Mae’n ysgol hyfryd mewn ardal gyfeillgar iawn meddai ac y mae’n edrych ymlaen i gydweithio gyda’r gymuned i ddatblygu’r ysgol ymhellach. 

            Mae ar hyn o bryd yn byw yn y Tymbl Uchaf gyda’i briod Sara ac mae eu mab, Tomos, yn wyth mis oed. Mae yn hoff o gerddoriaeth ac yn chwarae’r clarinet a’r piano. Mae hefyd yn hoff o bob math o chwaraeon ac, wrth gwrs, yn cefnogi’r Scarlets. Croeso a phob dymuniad da yn Nhycroes.

No comments:

Help / Cymorth