Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

19.3.14

Eisteddfod Ysgol Y Bedol


Cynhaliwyd Eisteddfod Gwyl Dewi lwyddiannus iawn yr Ysgol ar ddydd Gwener, Chwefor 21ain.  Cawsom groeso hyfryd gan y Brifathrawes, Mrs.Donna Williams ac eleni yr oedd croeso mawr i deuluoedd y plant ac hefyd ffrindiau yr ysgol i ymuno yn yr Ŵyl arbennig hon yng nghalendr yr ysgol. Hyfryd oedd gweld neuadd yr ysgol yn orlawn ac yn llawn bwrlwm.  Cafwyd croeso arbennig i Dewi ‘Pws’ Morris, fel arweinydd, a hefyd ei wraig, Rhiannon yn ogystal a Mrs.Marlene Thomas a Mrs.Mair Wyn fel beirniaid y cystadlu. .  Bu’r disgyblion yn cymeryd rhan yn frwdfrydig trwy ganu a llefaru yn unigol ac mewn côrau, a buont hefyd yn cystadlu ar wahanol offerynau. Yr oedd y plant wedi cael eu paratoi yn drwyadl gan wahanol athrawon yr Ysgol a mawr yw ein dyled iddynt am wneud y gweithgareddau ychwanegol hyn. Cychwynwyd yr Eisteddfod trwy ganu cân Ysgol y Bedol gyda Rhys Davies yn cyfeilio ar y piano. Ysgrifenwyd y geiriau  gan Mari Jones, Athrawes Blwyddyn 6 yn yr Ysgol, a dyma hi:-

 
Croeso sydd yma i bawb trwy
Ysgol lon cwm y glo,
Dysgu a chwarae dan yr un to
Croeso pwy bynnag y bo.
Dathlwn, dathlwn yr Aman ynghyd
Canolfan gynnes, gynnes a chlyd,
Ysgol y Bedol a’i swyn a’i hud
Porth addysg newydd fyd.
Croeso, croeso yw ein cân
Law yn llaw cerddwn ymlaen
Teulu hapus yn fawr a mân
A’n hysbryd nawr ar dân!

Cafwyd hwyl arbennig dan arweinyddiaeth Dewi ‘Pws’ ac fe gawsom sawl chwerthiniad iach.  Pinacl y dydd oedd y cadeirio dan ofal Mari Jones ac fe gafwyd teilyngdod.  Yr enillydd eleni oedd Megan Davies gyda Tyler Francis yn ail a Celyn Williams yn drydydd.    Yr oedd 42 o ddisgyblion wedi cystadlu am y Gadair ac mae’n diolch yn fawr i Mrs.Marlene Thomas am feirniadu’r gystadleuaeth.  Gwnathpwyd y gadair hardd gan Mr.Darrell Campbell a diolch o galon iddo yntau am wneud cadair mor grefftus i’r gystadleuaeth. Yr oedd pedwar llys yr Ysgol yn cystadlu sef Aman, Berach, Grenig a Pedol.  Llongyfarchwyd y llysoedd i gyd ar y terfyn gan Sian Priestland, y Ddirprwy Brifathrawes, a fu yng ngofal cyfrifiad pwyntiau’r llysoedd dros y gwahanol gystadleuthau. 

Diolch o galon i Mr Adrian Thomas o’r Garnant am dynnu yr holl luniau ar y dydd yn ôl ei arfer.  Canwyd ein Hanthem Genedlaethol ar ddiwedd yr Eisteddfod ac yr oedd y canu i’w glywed drwy Gwmaman rwy’n siwr. Roedd hwn yn ddiwrnod i’w gofio a’i drysori yn wir ac edrychwn ymlaen i Eisteddfod Gwyl Dewi 2015.

No comments:

Help / Cymorth