Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

25.3.14

Eisteddfod Ysgol Gymraeg Rhydaman


Llongyfarchiadau mawr i Ela Lewis a Megan James ar ddod yn fuddugol ym mhrif gystadleuthau Eisteddfod yr Ysgol eleni. Enillodd Ela y gadair am ysgrifennu llythyr at Sion Corn oddi wrth berson enwog ac enillodd Megan y Goron am ysgrifennu darn o farddoniaeth ar y testun “Darlun”. Y beirniaid eleni oedd Mrs Eira Davies a Miss Ruth  Bevan.

Yn y llun gwelir Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Rhydaman, Mrs Jean Huw Jones gyda beirniaid y cystadleuthau rhyddiaith a barddoniaeth, Mrs Eira Davies a Miss Ruth Bevan yn llongyfarch Ela Lewis a Megan James.

 

No comments:

Help / Cymorth