Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

20.4.14

Masnach Deg


Unwaith eto roedd Penwythnos Masnach Deg yn lwyddiant aruthrol yn Rhydaman. Caswom nifer o ddigwyddiadau arbennig. Wrth gwrs pinacl y pythefnos oedd y Banana Split enfawr oedd eleni yn cael ei chynnal am y chweched tro.
Cafodd Tref Masnach Deg Rhydaman ei gynrychioli'n dda yng Ngŵyl Masnach Deg Foncho ar ddydd Sadwrn 8 Mawrth yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe .

Roedd Caffi Cymunedol iSmooth yno yn gwneud smoothies wrth i bobl reidio beic i bweru y peiriant gwneud ssiodydd, ac roedd siopau Masnach Deg lleol Bertram, Harmony a Catherine Blair gyda stondinau.

No comments:

Help / Cymorth