Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

22.4.14

Masnach Deg yn Ysgol Gwaun Cae Gurwen


Mae’r ysgol yn ymfalchio yn ei statws fel Ysgol Masnach Deg.  Eleni, gan i ddyddiad dechrau dathlu Pythefnos Masnach Deg gwympo yn ystod gwyliau hanner tymor, aeth aelodau’r Cyngor Ysgol ati  i gynnal nifer o weithgareddau yn ystod yr wythnos flaenorol. Cafwyd wasanaeth arbennig ar y bore Llun i godi ymwybyddiaeth o waith ffermwyr bananas yn  Colombia  yna gwerthwyd ysgytlaeth bananas ganddynt ar y Dydd Mawrth a banana ‘splits’ ar y Dydd Iau. Dros yr hanner tymor , fel rhan o’u gwaith cartref, gofynnwyd i’r plant lunio poster i hyrwyddo amcanion Masnach Deg a bydd gwaith y  buddugwr yn cael ei wneud yn faner i’w harddangos tu fas i’r ysgol. Hamperi Masnach Deg oedd y gwobrwyon raffl yn ystod Eisteddfod Gŵyl Ddewi’r ysgol.

No comments:

Help / Cymorth