Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

30.4.14

Eisteddfod Ysgol Gwaun Cae Gurwen



Cafwyd Eisteddfod lwyddiannus iawn yn ysgol Gwaun Cae Gurwen yn ddiweddar. Roedd neuadd yr ysgol yn fôr o goch gyda’r plant wedi gwisgo yn eu gwisg Gymreig a’u crysau rygbi coch. Diddanwyd y gynulleidfa gydag amrywiaeth o gystadleuthau -canu unawd, llefaru, côrau adran, canu recorder a dawnsio disgo. Hefyd gwobrwywyd y plant hynny oedd wedi ennill cystadleuthau gwaith ysgrifenedig, llawysgrifen a chelf. Beili Glas oedd y llys buddugol ar ddiwedd y cystadlu.

Diolchiadau mawr i’r beirniaid yn ystod y dydd sef Mrs Catherine Williams a Miss Sophie Lacey ac i Mrs Maureen Jones  a Mrs Joan Slaymaker am feirniadu’r gwaith Celf ac i Mr Ken  Davies a Mrs Glenys Kim Protheroe am feirniadu’r gwaith ysgrifenedig. Diolch hefyd i’n partneriaid darllen ffyddlon am helpu gyda’r lluniaeth.

Testun cystadleuaeth y gadair eleni oedd ‘Y Sahara’ a phrosiect Macey Clafton oedd yn fuddugol. Llongyfarchiadau mawr iddi.

No comments:

Help / Cymorth