Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

7.5.14

Agoriad Swyddogol Maes parcio'r Palais

Ar un adeg, Neuadd y Palais yn y Garnant oedd yn meddu’r llawr dawnsio gorau yn Nyffryn Aman ond bu’n rhaid ei dymchwel ar ôl i’r adeilad fynd ar ei waeth dros y blynyddoedd.  Braf felly oedd gweld y safle yn cael ei ail-agor ar fore Dydd Mawrth, y 18ed o Fawrth, fel maes parcio i ymwelwyr a phobl lleol sy’n defnyddio’r llwybr cerdded bendigedig ar hyd glanau’r Aman ac sydd bellach yn rhedeg yr holl ffordd o Rydaman i fyny i Frynaman.

Yn eu hanerchiadau, soniodd Kevin Madge, arweinydd Cyngor Sir Gâr, a Dafydd Wyn, Maer Cwmaman, am eu gobeithion y byddai’r adnoddau hyn yn hwb i bobl lleol gerdded ac edmygu prydferthwch Dyffryn Aman ac roeddent yn gobeithio y byddai’r golygfeydd hyn hefyd yn denu twristiaid i’r ardal.

No comments:

Help / Cymorth