Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

9.5.14

DYMUNO’N DDA


Mae Y Parchg Dyfrig Rees Gweinidog Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes wedi derbyn galwad i wasanaethu ar Eglwys Tabernacl, Penybont ar Ogwr. Bydd Mr Rees yn dechrau yn Nhabernacl yn Mis Medi.
Mae Dyfrig wedi gwasanaethu arnom yng Ngellimanwydd ers 14 mlynedd ac mae’r capel  wedi llwyddo yn arbennig yn ystod ei Weinidogaeth. Dymuniad holl aelodau a ffrindiau Gellimanwydd  yw pob hapusrwydd a llwyddiant i Dyfrig, Mandy a’r bechgyn yn Mhenybont. Bydd y capel yn gweld eu heisiau yn fawr.

No comments:

Help / Cymorth