Hyfryd oedd gweld Neuadd Goffa Llandybie yn llawn ar nos Wener Medi25ain wrth i Gôr Meibion Llandybie gyflwyno ei Gyngerdd flynyddol gyntaf yn ail ganrif hanes y côr.
O dan arweiniad dawnus ein côr feistr newydd, Mr Alun Bowen, difyrwyd y gynulleidfa gan wledd o ganu. Yr oedd y rhaglen amrywiol yn cynnwys caneuon at ddant pawb. Dechreuodd y gyngerdd gyda cyflwyniad bywiog o rhai o ganeuon Gilbert a Sullivan. Plesiwyd y gynulleidfa gyda’r canu swynol a oedd yn cynnwys nifer fawr iawn o ganeuon newydd i’r côr.
Talentau lleol ifanc oedd yr artistiaid a swynwyd y gynulleidfa gan berfformiadau caboledig a graenus y chwaer a brawd Rachel a James Lawlor a gwefreiddiol oedd perfformiad Davinder Singh.
Diolch i Mrs Dorothy Singh am ei gwaith arbennig drwy’r nos fel cyfeilyddes ac wrth gwrs i Mr Alun Bowen am ei waith diflino gyda’r côr. Gwerthfawrogwn eu cyfraniad yn fawr iawn.
No comments:
Post a Comment