Dyma wefan Papur Bro Glo Mân. Papur Bro ardal Dyffryn Aman. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu newyddion yna cysylltwch ag edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk unrhyw bryd.

Mae deg rhifyn mewn blwyddyn ac os hoffech dderbyn y papur trwy'r post yna cysylltwch ag Edwyn trwy e-bost neu ffoniwch 01269 845435. Pris Gwledydd Prydain £15, Ewrop £25, Gweddill y byd £32
edwyn@edwyn.wanadoo.co.uk

22.11.09

Cyngor Eglwysi Rhyddion Rhydaman

Nos Lun, 5 Hydref, roedd Y Parchg Geraint Tudur, Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg, yn annerch Cyfarfod Cyngor Eglwysi Rhyddion Rhydaman yn Neuadd Gellimanwydd. Testun ei gyflwyniad oedd “Bywiogi Pethau”.
Cawsom araith bwrpasol a diddorol ganddo yn rhoi llawer o syniadau ymarferol ar sut y gallwn ni wneud y newid sydd ei angen yn ein capeli. Pwysleisiodd Y Parchg Geraint Tudur mai eisiau i ni yr aelodau i fod yn ymarferol a gweithgar yw’r ateb. Mae angen cynllun cyraeddadwy, mesuradwy a realistig.
Diolchwyd iddo ar ran yr Eglwysi Rhyddion gan Mrs Margaret Jones, Y Gwynfryn.

No comments:

Help / Cymorth