Ar drothwy’r Nadolig fe fydd Madam Lynne Richards, Heol Pontarddulais, Tycroes yn dathlu pen-blwydd arbennig yn 90 oed. Athrawes oedd yn ôl ei galwedigaeth ond fe chwaraeodd canu rhan bwysig yn ei bywyd. Bu yn canu am dros hanner can mlynedd ynghyd â beirniadu am ddeugain mlynedd.
Decheuodd ei gyrfa yn y cyngherddau ‘Welcome Home’ yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yna bu’n cystadlu yn yr Eisteddfodau a hynny o dan anogaeth ei hathro cerdd, Gwilym R. Jones. Yr oratorio gyntaf iddi berfformio oedd ‘Y Meseia’ yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman gyda Gwilym R. Jones yn arwain y côr a Trevor Rees wrth yr organ.
Ei hail athro canu oedd Bryn Richards, Gorseinon. Ychydig feddyliodd y byddai’r athro canu hwn yn dod yn diweddarach yn ŵr ac yn gyfeilydd iddi. Ef, heb os, oedd y dylanwad mwyaf arni ac arweiniodd i lwyddiant ei gyrfa gerddorol – ennill yn Eisteddfod Genedlaethol Y Rhyl, Ystradgynlais a Llanrwst ac yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen. Yna ennill Telyn Arian Gŵyl Gerdd Llandudno. Enillodd hefyd dair Medal Aur ac ar ôl ennill y Rhuban Glas gorffennodd gystadlu a dechrau beirniadu a chanu mewn oratorios a chyngherddau.
Yn ystod ei gyrfa cafodd gyfle i ganu gyda rhai o gantorion amlycaf Llundain. Mae wedi gorffen canu yn proffesiynol ers llawer blwyddyn bellach ond fe fydd yn amal iawn yn canu yng nghyfarfod y Deillion yn Rhydaman.
Un o bleserau mawr Lynne oedd teithio’r byd a bu o amgylch y byd ddwy waith gan ymweld â’r Amerig, Seland Newydd ac Awstralia nifer o weithiau.
Mae ei hwyres, Dr. Sharon Brierley, a’i theulu yn byw yn Melbourne, Awstralia ac mae’n nhw’n dod adref i Dycroes i ddathlu penblwydd arbennig ‘Mam Tycroes’
No comments:
Post a Comment