‘. . . a’i osod mewn preseb’ – Oedfa Nadolig a baratowyd gan y Parch. Beti Wyn James, Caerfyrddin oedd yn sail i’r gwasanaeth ar-y-cyd rhwng capeli Bethesda, Caersalem a Moreia a gynhaliwyd ym Moreia ganol Rhagfyr. Arweiniwyd y gwasanaeth gan y Parch. Dyfrig Rees gydag aelodau o’r dair eglwys yn cymeryd rhan. Cynorthwywyd wrth yr organ gan Mrs. Wynona Anthony. Paratowyd te hyfryd wedi’r oedfa gan chwiorydd Moreia ac fe gyflwynwyd y casgliad i’r gangen leol o’r elusen Ymchwil Cancr.
* * * *
Yna ar Sul cyn y Nadolig death aelodau Gellimanwydd, Rhydaman a Moreia, Tycroes ynghyd i ddathlu’r Nadolig. Braf oedd gweld y capel yn gysurus lawn. Llywyddwyd gan weinidog y ddwy eglwys, y Parch. Dyfrig Rees, gyda Mrs. Wynona Anthony wrth yr organ. Cymerwyd rhan gan Stephanie Davies, Mary Thomas a Ieuan Thomas o Foreia a Brian Owen o Gellimanwydd. Cafwyd eitemau gan Gôr Merched, Côr Dynion a Chôr Cymysg Gellimanwydd o dan arweiniad Gloria Lloyd gyda Cyril Wilkins yn cyfeilio.

No comments:
Post a Comment