Y Parch. John Talfryn Jones ynghyd â Mrs. Barbara Phillips
Ar brynhawn Sul ym mis Gorffennaf cynhaliwyd oedfa arbennig ym Methesda, Tycroes. Dadorchuddiwyd cofeb er cof am ein hannwyl gyn-weinidog, y diweddar Barchedig Gwynfor Phillips a fu’n gwasanaethu’r Arglwydd yn ffyddlon o 1972 hyd 1985. Ymgasglodd cynulleidfa gref ac roeddent yn dyst i’r diolch a’r edmygedd roedd gennym o’r Parch. Gwynfor Phillips. Y Parch. John Talfryn Jones, gweinidog Ebeneser, Rhydaman oedd yn gyfrifol am yr oedfa ac fe dalodd y deyrnged ganlynol i weinidogaeth Mr. Phillips:
“Y mae yr awr hon yn ddigwyddiad mawr a hanesyddol ym mywyd eglwys Bethesda. Fe gofiwn weinidog ffyddlon, y Parchedig Gwynfor Phillips, a rannodd gyda holl deuluoedd yr eglwys a’r gymuned hon yn eu llawenydd, eu stormydd a’u profedigaethau. Gwas da a ffyddlon i’r Arglwydd. Rwyf am bwysleisio hynny. Ymhen munud neu ddwy fe fydd Barbara yn dadorchuddio cofeb iddo, ac fe wyddom fod yr awr hon yn dod a chymysgedd o hiraeth i chi, ond mae yma ‘breid’ hefyd. Ac fel hynny dylai fod, i weld yr Eglwys hon yn dangos ei diolch a’i hymffrost yn ei doe a’i hechddoe hi – ei bod wedi trysori, yn parhau i drysori, ac am ddangos i’r cenedlaethau a ddaw, fod ganddi edmygedd a pharch tuag at weinidogaeth Gwynfor, fel y mae wedi bod i’r brodyr a’i rhagflaenodd yma ym Methesda.
“Dyna mae yn ei olygu. O heddiw ymlaen fe fydd y gofeb syml hon yn tystio i flynyddoedd cyfoethog yn hanes eglwys Bethesda, Tycroes. Ac rwy’n gwybod bod y weithred hon yn ennyn gwerthfawrogiad Barbara, Rhian, Kerry a Llio. Mae awdur y Llythyr at yr Hebreaid yn dweud: ‘Cadwch mewn cof eich harweinwyr, y rhai a lefarodd air Duw wrthych; myfyriwch ar ganlyniad eu buchedd ac efelychwch eu ffydd.’
“Wrth gwrs, y tu ôl i Gwynfor yr oeddech chi Barbara. Da yw i weinidog fod ganddo wraig sydd ar yr un donfedd ag ef, ac fe gafodd hynny – y ddau ohonoch yn cyd-gerdded, yn cyd-foli – yn cyd ymdeimlo ym mhob peth fyddai’r naill a’r llall yn ei wneud; ac i gael ei deulu o’i gwmpas i Gwynfor, doedd dim eisiau dim byd arall.”
Y Gofeb er cof am y Parch. Gwynfor Phillips
Galwyd ar Mrs. Barbara Phillips i ddadorchuddio’r gofeb. Munudau emosiynnol iawn i bawb oedd yn bresennol. Yna traddododd y Parch. John Talfryn Jones neges Mrs. Barbara Phillips i’r gynulleidfa yn diolch a datgan gwerthfawrogiad y teulu am y weithred arbennig o gofio a choffau ei hannwyl briod.
No comments:
Post a Comment