Llongyfarchiadau i Eric a Brenda Smith, gynt o Stryd y Parc, Brynaman sydd newydd ddathlu eu priodas ddiemwnt. Fe'u priodwyd yng Nghapel Ebeneser ar 14eg o Fedi 1950. Mae'r ddau nawr wedi setlo yng Nghartref Parc y Wern, Rhydaman lle cawsant barti wedi ei drefnu gan Eileen eu merch i nodi'r achlysur.Daeth nifer dda o'u ffrindiau i ymuno yn y dathlu. Cyflwynwyd plat iddynt ar ran y Cyngor Cymuned.
No comments:
Post a Comment