Eleni mae cwmni teuluol o Lanaman yn dathlu 80 mlynedd o fusnes ym mhentref Glanaman.
Yn 1930 y sefydlwyd “Evans ac Evans” (sef busnes o wasanaeth yswiriant) a hynny gan John Evans ac Enid Evans, sef tadcu a mamgu Ann Jones, un o’r partneriaid presennol.
Ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf fe symudodd sawl teulu o ardaloedd amaethyddol Sir Gaerfyrddin i Gwmaman i fanteisio ar y bwrlwm diwydiannol a oedd yn bodoli yn y cwm a dyw hanes sefydlu Evans ac Evans ddim yn wahanol o gwbl.
O Lanwrda y daeth John Evans a dechreuodd gwmni adeiladu ger yr orsaf yng Nglanaman. Roedd yn gyfrifol am adeiladu sawl tŷ yn y cwm gan gynnwys nifer o adeiladau yn Heol Ceidrim.
Symudodd wedyn i sefydlu’r busnes yswiriant sy’n dal i fodoli heddiw. Yn 1955 fe ymunodd gŵr Enid, sef Iorwerth (Iori) Davies â’r busnes wedi cyfnod hir ar y môr. Roedd Iori’n gymeriad poblogaidd yn y Cwm a bu’n llywio’r busnes gydag Enid hyd at ei farwolaeth yn 1979. Am y 26 mlynedd diwethaf mae’r cwmni wedi cael ei redeg gan Ann Jones a’i gŵr, Gareth, ac erbyn heddiw fe’u cynorthwyir gan Linda Howell, eu hysgrifenyddes.
Mae newidiadau di-rif wedi cymeryd lle yn ystod yr 80 mlynedd diwethaf gyda thechnoleg fodern yn llywio’r gwaith o ddydd i ddydd erbyn hyn. Pwy a ŵyr beth fydd y dyfodol. Pob llwyddiant a hir oes i’r cwmni.
No comments:
Post a Comment