Chwiorydd Moreia a fu’n brysur yn paratoi y Swper Cynhaeaf
Cafwyd noson difyrus a hwyliog eleni eto yn Swper Cynhaeaf Moreia, Tycroes. Cafwyd gwledd i’w fwyta gyda’r chwiorydd o dan arweiniad Eiry Davies a Mary Thomas wedi paratoi yn helaeth ar gyfer rhyw saith deg o westeion.
Y prif westai oedd Mel Morgans, Brynaman. Cyflwynodd araith hynod ddiddorol wrth iddo sôn am y dylanwadau a fu arno yn ystod ei oes, sef Capel, Ysgol, Mam, Rygbi a’r Urdd – CYMRU – y capel yn Y Tymbl; yr ysgol wrth iddo dreulio oes yn dysgu ac fel prifathro; mam a fu’n gymaint dylanwad arno; rygbi a’i ymroddiad i’r gêm ym mhob agwedd arni ac yna’r Urdd. Bu plant ysgol Saron yn gystadleuwyr cyson yn Eisteddfodau a chwaraeon yr Urdd yn ystod cyfnod Mr. Morgans yn Saron.
Y Parch. Dyfrig Rees yn ymgomio â Mr. Mel Morgans, Brynaman
Llywydd y noson oedd y Parch. Dyfrig Rees.Gwnaethpwyd cryn elw ar y noson a’r cyfan yn mynd tuag at gronfa elusen yr eglwys. Hefyd fe werthwyd bron yr holl gardiau Nadolig i elusen hospis plant Tŷ Hafan.
No comments:
Post a Comment