Buodd Côr Meibion Llandybie yn perfformio yn Theatr yr Hipodrôm, Parc y Rhath yng Nghaerdydd ar ddechrau mis Ionawr. Y mae theatr yr Hipodrôm yn unigryw iawn oherwydd mae’n rhan o gartref Hywel a Gwyneth Jeffries (gynt o Lanaman). Oddiar 1994 mae’r ddau berson hynaws hyn wedi bod yn cynnal cyngherddau a soirees yn rheolaidd er mwyn codi arian i lu o elusennau. Oddiar 1994 maent wedi casglu tipyn dros £200,000 tuag at achosion teilwng!Mae’r theatr yng nghefn y t ˆy ac yn dal pum deg o fobl ac os nad oes lle i chi yn y theatr cewch eistedd mewn gwahanol ystafelloedd a cewch wylio y cyfan mewn seddau cyfforddus a gwylio’r cyfan ar setiau teledu enfawr. Roedd yn brofiad gwahanol iawn i’r côr.
Thema y noson oedd dathliadau Calan ac fe gafwyd rhaglen amrywiol a diddorol gan y côr a’r artistiaid eraill megis Trystan Griffiths, Catrin Aur, Ann Edwards Davies, Noel Rees a Daloni Roberts. Ar y noson codwyd £4,500 tuag at elusen i helpu athrawon yn ysgolion Zambia, un o wledydd tlotaf y byd. Gwnaethpwyd apêl ar rhan elusen ‘Teacher Aid’ gan y Parchedig Teddy Kalongot. Dywedodd bod yr elusen yn gwneud gwaith ardderchog i wella safonau addysg yn Zambia sydd yn allweddol i ddatblygiad y wlad yn y dyfodol.
Yr oedd yn fraint i’r côr gael perfformio yn y theatr a dymunwn y gorau i Hywel a Gwyneth yn eu hymdrechion canmoladwy i godi arian i’w helusennau.
No comments:
Post a Comment