Mae’r flwyddyn hon yn flwyddyn arbennig iawn i Ysgol Blaenau gan ein bod yn dathlu canmlwyddiant agoriad yr ysgol. Dechreuom dathliadau’r flwyddyn ar Ddydd Mercher Ionawr 12fed pan gynhalwyd barti i blant yr ysgol yn ystod yr awr ginio. Rydym yn diolch yn fawr iawn i staff ein cegin am y gefnogaeth gan gynnal y parti. Yn ystod y prynhawn, cynhaliwyd wasanaeth gwobrwyo ar gyfer plant yr ysgol a’r Mudiad Meithrin sydd yn cael ei chynnal yn yr ysgol. Daeth seren tim Llanelli Scarlets a Chymru, Dafydd Jones, atom i fod yn bresennol yn ein gwasanaeth, ac fe gyflwynodd pob un plentyn yn yr ysgol gyda rhodd canmlwyddiant. Yn dilyn y gwasanaeth bu y plant wrth eu bodd yn cwrdd a sgwrsio gyda Dafydd Jones, ac yn gofyn am ei lofnod.
Bydd y flwyddyn gyfan yn flwyddyn arbennig i ni yn yr Ysgol, ac mae sawl eitem gyda ni ar werth yn yr ysgol i ddathlu’r digwyddiad. Mae cwpanau canmlwyddiant, platiau canmlwyddiant, tywelion, a chalendrau canmlwyddiant ar werth yn yr ysgol. Os hoffech weld neu archebu’r nwyddau yma, cysylltwch gyda’r ysgol.
Byddem ar Ddydd Sadwrn Ebrill 2ail yn cynnal Diwrnod Agored Swyddogol yn yr ysgol ar gyfer y cyhoedd, ac rydym yn estyn croeso cynnes iawn i ddisgyblion, staff, rhieni, a ffrindiau’r ysgol o’r gorffennol a’r presennol. Bydd sawl eitem yn cael ei drefnu ar gyfer y dydd, rhwng 1pm a 6pm. Bydd yn gyfle wych i bawb, o’r presennol a’r gorffennol i gwrdd a thrafod storiau a hanesion yr ysgol, a chael gweld hen eitemau yr Ysgol rydym wedi casglu at ei gilydd (hen luniau, llyfrau cofrestr, llyfrau cosb ac yn y blaen). Bydd rhagor o wybodaeth am ddiwgyddiadau’r Diwrnod Agored i ddilyn.
Am ragor o wybodaeth am yr ysgol a dathliadau’r canmlwyddiant, gwelwch ein safle we ar http://www.blaenau.amdro.org.uk/
No comments:
Post a Comment