Bydd yr arddangosfa uchod i’w gweld yn y Ganolfan drwy gydol mis Mawrth. Dyma ddathliad o faneri Cymru yn cynnwys detholiad bach o’r cannoedd o faneri a wnaed gan bobl o Gymru ac ar gyfer pobl Cymru. Buont yn arwain gorymdeithiau a gwrthdystiadau brwd fel Streic y Glöwyr 1984/5 a’r Ymgyrch hanesyddoli roi Pleidlais i Fenywod a byddant yn ymddangos ochr yn ochr â baneri eraill a grewyd i gyrff anwleidyddol ond rhai tra dylanwadol fel Ysgolion Sul.
Trefnwyd yr Arddangosfa gan Lyfrgell y Glöwyr sy’n rhan o Brifysgol Cymru Abertawe.
• Cofiwch am:
- y Clwb Cinio i’r rhai dros 50 bob dydd Llun
- y Cynllun Bancio Amser,
- y gwahanol ddulliau o gefnogi’r Ganolfan drwy ymaelodi am £2 y flwyddyn, trwy danysgrifio a/neu ymuno â’r Clwb Cant.
Cysylltwch â’r Ganolfan am fanylion pellach am unrhyw un o’r uchod – Ffôn 01269-823400.
No comments:
Post a Comment