Yn y llun gwelir Tudur gyda Gwenno Ffrancon, sydd wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr yr academi.
Penodwyd y Dr Tudur Hallam, sydd ar hyn o bryd yn Uwch ddarlithydd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe, i Gadair yn y Gymraeg yn Academi Hywel Teifi.Daw yn wreiddiol o Benybanc, ac mae wedi ymgartrefu bellach yn Foelgastell. Ymunodd a'rAdran Gymraeg yn 1999, ac mae'n arbenigo ym meysydd theori a beirniadaeth lenyddol a'r cyfryngau, gan gynnwys gwaith R.M. Jones a gwaith dramataidd Saunders Lewis. Y llynedd dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis er mwyn ysgrifennu astudiaeth o waith y dramodydd.
Dyma'r ail gadair iddo'i hennill yn ddiweddar, gan iddo gipio Cadair Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a'r Cymoedd y llynedd am ei awdl deyrnged i Hywel Teifi Edwards. Llongyfarchiadau.
No comments:
Post a Comment